Uwch Swyddog, Tîm yr Amgylchedd

Teitl Swydd
Uwch Swyddog, Tîm yr Amgylchedd
Enw’r Cwmni
Cyfoeth Naturiol Cymru
Lleoliad
Caerdydd
Cyflog
£42,662 – £46,662
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 05/07/2026

Lleoliad: Caerdydd – Plas Yr Afon
Gradd / Amrediad cyflog 06: £42,662 – £46,662
Patrwm gwaith: Llawn amser – 37 awr y wythnos
Math o gytundeb: Parhaol
Lefel hyfedredd yn y Gymraeg A2 – Lefel sylfaen
Dyddiad cau: 05/07/2026

Y rôl

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a phroffesiynol sy’n gallu gweithio’n gyflym, i derfynau amser tynn yn aml ac sy’n gallu blaenoriaethu ei lwyth gwaith mewn modd effeithiol er mwyn cyflawni mwy ar gyfer yr amgylchedd.

Fel swyddog o fewn Tîm Amgylcheddol Casnewydd, Caerffili a Blaenau Gwent, byddwch yn adrodd i Arweinydd y Tîm Amgylcheddol ac fel un o rwydwaith o uwch-swyddogion byddwch yn chwarae rhan allweddol mewn cynllunio gwaith ar lefel lle.

Mae gweithgareddau Tîm yr Amgylchedd wrth wraidd cyflenwi rheolaeth gynaliadwy o’n hadnoddau naturiol yng Nghymru a mynd i’r afael â’r argyfwng yn yr hinsawdd a’r argyfwng ym myd natur.

Rydym yn chwilio am uwch-swyddog sydd ag arbenigedd a phrofiad ym maes ansawdd dŵr i weithio ar reoli digwyddiadau er mwyn helpu i gyflwyno rheoleiddio effeithiol i wella’r amgylchedd dŵr. Chi fydd yr arweinydd technegol a’r mentor ar faterion rheoleiddio dŵr o fewn y tîm a byddwch yn gallu ymdrin â digwyddiadau, materion dadleuol, ymholiadau a chwynion.

Fel rhan o rôl Cyfoeth Naturiol Cymru fel ymatebydd Categori 1 o dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl, bydd deiliad y swydd hefyd yn ymateb yn ddiogel, yn amserol ac yn effeithlon i ddigwyddiadau amgylcheddol ac yn ymgymryd â gwaith ymchwilio a gorfodi priodol. Bydd gofyn i chi roi cymorth a bod yn bresennol mewn digwyddiadau y tu hwnt i oriau swyddfa.

Fel sefydliad rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. ​Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn y lleoliad uchod, a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno adeg eich penodi.

Mae gyrru yn hanfodol i’r rôl hon. Rhaid i chi fod â thrwydded yrru lawn a chyfredol yn y DU.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Kate Rogers at Kate.Rogers@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Bydd cyfweliadau’n bod wyneb yn wyneb yr wythnos yn dechrau yr 20/07/2026 (bydd manylion lleoliad yn cael eu rhannu ymlaen llaw)

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Cynrychioli CNC mewn trafodaethau gyda sefydliadau partner.
  • Gweithredu fel cynghorydd a mentor technegol ar gyfer aelodau’r tîm.
  • Gweithio’n agos gydag arweinydd y tîm wrth gynllunio a chyflawni gwaith gorfodi a’r rhaglen gydymffurfio.
  • Cymryd camau gweithredu priodol ar gyfer casglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
  • Pan nodir diffyg cydymffurfedd, pennu a gweithredu’r opsiwn ymyrryd mwyaf priodol.
  • Cydlynu datblygiad technegol aelodau o’r tîm.
  • Chwarae rôl allweddol wrth nodi cyfleoedd ar gyfer cytundebau rheoli a phrosiectau partneriaeth newydd er mwyn cyflawni blaenoriaethau CNC yn y lle.
  • Cyflawni rôl uwch yn y gwaith o gynorthwyo gwasanaeth rheoli digwyddiadau cadarn a chymwys ar gyfer CNC sy’n dilyn prosesau’r sefydliad.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich hun drwy ddefnydd effeithiol o’ch cynllun datblygu personal (a elwir yn Sgwrs)
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau. 
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Profiad o ddatblygu a rheoli prosiectau. 
  2. Dealltwriaeth gyffredinol o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gydag arbenigedd wedi ei ganolbwyntio ar faes penodol o fewn cylch gwaith Tîm yr Amgylchedd.
  3. Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol â rhanddeiliaid a’r cyhoedd, gan esbonio materion ac ennill cefnogaeth drwy ddylanwadu.
  4. Gwybodaeth a phrofiad da mewn perthynas â phrosesau rheoleiddio a gorfodi.
  5. Meddu ar drwydded ddilys lawn a chyfredol y DU i yrru cerbydau fflyd CNC (ceir a faniau).

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: A2 – Level sylfaen

Gofynion y Gymraeg

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r Gofynion y Gymraeg y rôl hon ni fydd eich cais yn cael ei ei adolygu.

Gwybodaeth ychwanegol

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir penodiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau. 

Mae’r rôl hon yn bodloni’r meini prawf ar gyfer nawdd o dan y llwybr fisa i Weithwyr Medrus. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn croesawu ceisiadau gan y rhai nad ydynt yn ddinasyddion o’r DU sy’n gymwys i wneud cais o dan y llwybr hwn, yn amodol ar gadarnhad gan y Swyddfa Gartref. 

Sylwer, er y gallai fod yn bosib i ni gefnogi’r Dystysgrif Nawdd sy’n ofynnol ar gyfer cais am fisa, nid yw’r sefydliad yn talu cost y fisa ei hun, gan gynnwys unrhyw ffioedd cysylltiedig ar gyfer dibynyddion. 

Rhaid i’r ymgeisydd fodloni Cymhwystra a Gofyniad Fisa ar gyfer Gweithiwr Medrus y DU o hyd. Am ragor o wybodaeth, ewch i:https://www.gov.uk/skilled-worker-visa 

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Cyfeirnod Swydd
201118

Sut i wneud cais

Cliciwch ar y ddolen “Gwneud Cais” isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.