Ymarferydd Clinigol Uwch SACT
Rydym yn chwilio am Ymarferydd Clinigol Uwch brwdfrydig, llawn cymhelliant a phrofiadol i ymuno â’n gwasanaeth Therapi Gwrth-Ganser Systemig (SACT) deinamig, sy’n tyfu. Prif gyfrifoldeb y rôl hon yw cynnal asesiadau uwch cyn SACT ac adolygu triniaethau, gan sicrhau bod cleifion yn barod ar gyfer triniaeth canser mewn modd diogel ac effeithiol. Bydd hyn yn cael ei wneud drwy ddefnyddio arbenigedd clinigol i asesu cleifion, gwneud penderfyniadau am eu triniaeth, rhagnodi meddyginiaethau a rheoli sgil-effeithiau a chymhlethdodau triniaeth.
Mae hwn yn gyfle 12 mis ar gontract cyfnod penodol i’r ymgeisydd llwyddiannus chwarae rhan allweddol yn natblygiad parhaus ymarfer clinigol uwch a gwasanaethau SACT, wrth i Wasanaethau Canser Felindre fynd drwy gyfnod cyffrous o newid a thrawsnewid.
Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol hynod fedrus, ac yn cydweithio’n agos gydag ystod o weithwyr proffesiynol ym maes iechyd i ddarparu gofal rhagorol sy’n canolbwyntio ar anghenion y claf. Byddwch yn chwarae rhan ganolog mewn cefnogi cleifion drwy bob cam o’u triniaeth canser, ac yn sicrhau eu bod wedi’u paratoi’n dda ar gyfer triniaeth, gwneud y gorau o’r ffordd y rheolir symptomau, a helpu i sicrhau bod therapïau gwrth-ganser systemig yn cael eu darparu’n ddiogel ac yn effeithiol ar draws De Ddwyrain Cymru.
Prif ddyletswyddau’r swydd
Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n hyblyg ar draws VCC a’i safleoedd allgymorth ac yn cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau SACT teg o ansawdd uchel ar draws nifer o leoliadau gofal.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg.
