Ymarferydd Cyswllt
Mae gan Wasanaeth Gwaed Cymru gyfle am Ymarferydd Cyswllt o fewn Profion Awtomataidd.
Bydd gan y deiliad swydd, ar y cyd â staff Gwyddor Biofeddygol (BMS) rôl oruchwylio a bydd yn gyfrifol am drefnu gwaith, goruchwylio staff cymorth a chymryd rhan yng ngwaith arferol Profion Awtomataidd.
Mae gan Wasanaeth Gwaed Cymru (WBS) swydd ar gyfer Ymarferydd Cyswllt (AP) yn yr adran Profion Awtomataidd yng nghanolfan Tonysguboriau. Mae’r swydd yn cynnig cyfle cyffrous i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru ac rydym yn croesawu ymgeiswyr sydd â diddordeb brwd mewn cyflogaeth mewn labordy.
Bydd y deiliad swydd yn cyflawni amrywiaeth o dasgau technegol arferol ac arbenigol a fydd yn cynnwys profi cydrannau gwaed sy’n addas ar gyfer trallwysiad. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio ar lefel i sicrhau bod pob proses yn bodloni gofynion Canllawiau Trallwyso Gwaed y DU a Chyfarwyddeb yr UE fel y’u harolygir gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA).
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg fel ei gilydd i wneud cais.
