Ymchwilydd – Heno /Prynhawn Da

Teitl Swydd
Ymchwilydd – Heno /Prynhawn Da
Enw’r Cwmni
Tinopolis
Lleoliad
Llanelli
Cyflog
yn ddibynnol ar brofiad
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 29/06/2026

Tinopolis – Llanelli

Mae swydd ymchwilydd yn gam cyntaf o fewn y diwydiant teledu. Dyma swydd sy’n gyflwyniad i’r broses gynhyrchu ac yn sylfaen dda ar gyfer unrhyw un sydd a’r uchelgais i fynd ymhellach.

Fel aelod o dîm o ymchwilwyr, fe fyddwch yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau i ddod o hyd i eitemau, stiwdio a rhai i’w ffilmio ar leoliad, ar gyfer Prynhawn Da a Heno. Yn dilyn cymeradwyaeth gan y Tîm Cynhyrchu, fe fyddwch yn gyfrifol am drefnu lleoliad, cyfranwyr, criw ffilmio a llunio nodiadau ar gyfer y cyflwynydd/gohebydd ynghyd ag unrhyw fater arall sydd angen ei drefnu. Yn dilyn hyfforddiant, fe fyddwch yn llunio drafft cyntaf o asesiad risg ar gyfer unrhyw ffilmio.

Mae Prynhawn Da a Heno yn rhaglenni byw dyddiol, felly byddwch yn gweithio dan bwysedd amser yn aml er mwyn sicrhau fod eitemau’n cyrraedd y sgrin mewn pryd. Mae Heno yn darlledu’n fyw o 7:00yh tan 7:30yh ac mae disgwyl i un ymchwilydd weithio tan ddiwedd y darllediad bob nos. Ar adegau gall eitemau hwyr olygu fod angen gweithio hyd at amser darlledu’r rhaglen.

Fel rhan o’ch gwaith fe fyddwch yn cynorthwyo ar lawr y stwdio, trefnu/prynu defnyddiau ar gyfer eitemau stwdio, cynorthwyo gyda pheiriant Autocue yn ystod ymarfer a darlledu neu, gyda chriw camera, yn holi barn pobl ar y stryd.

Mae Tinopolis hefyd yn cynhyrchu nifer o raglenni eraill (Pawb a’i Farn, Sgwrs dan y Lloer, Carol yr Ŵyl ac yn y blaen) ac o dro i dro fe fyddwch hefyd yn gweithio ar y rhaglenni hyn.

Lleoliad: Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli SA15 3YE
Cyflog: yn ddibynnol ar brofiad
Dyddiad Cau: 29ain o Mehefin 2026

Manylion pellach

Oriau Gwaith: Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos ond oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys, penwythnosau a gwyliau banc.

Gwyliau: Yn ychwanegol i’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn 29ain o Mehefin 2026, at Swyddi@tinopolis.com neu Swyddi, Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE.

Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU. Bydd yn ofynnol cael tystolaeth ddogfennol o gymhwyster gan ymgeiswyr fel rhan o’r broses recriwtio.

Gwybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch chi pan fyddwch yn ymgeisio am swydd yn Tinopolis:Wrth wneud cais am swydd, bydd disgwyl i chi ddarparu CV fel rhan o’r broses. Byddwn yn cadw copi o’ch CV ar ffeil am gyfnod o dair blynedd. Pe bai swydd debyg yn codi yn y cyfnod hwn, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth er mwyn cysylltu â chi. Gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol o’n ffeiliau ar unrhyw adeg. Am ragor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, gweler : http.www.tinopolis.com/privacy-notice/

Sut i wneud cais

Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn 29ain o Mehefin 2026, at Swyddi@tinopolis.com neu Swyddi, Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE.