Uwch Newyddiadurwr / Gohebydd

Job Title
Uwch Newyddiadurwr / Gohebydd
Company Name
BBC
Location
Caerdydd
Salary
£41,200 – £50,000 y flwyddyn yn ddibynnol ar sgiliau, gwybodaeth a phrofiad perthnasol.
Full-time/Part-time
Full time
Closing Date
Closing Date: 23/06/2026

MANYLION Y SWYDD


BAND Y SWYDD: D
MATH O GONTRACT: Cytundeb cyfnod penodol tan y 26ain Mawrth 2027
ADRAN: Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru

Mae sgiliau’r Iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon


Bydd deilydd y swydd Uwch Newyddiadurwr Gohebydd yn rhan o dîm Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru yn canolbwyntio ar De-ddwyrain Cymru. Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd lwyddianus darganfod a chyflwyno straeon gwreiddiol sydd yn gosod yr agenda. Bydd disgwyl i’r straeon cael eu darparu yn ddigidol yn gyntaf ac hefyd i raglenni teledu a radio Newyddion BBC Cymru.


Mi fydd y gohebydd yn gyfarwydd a defnyddio triniaethau creadigol a dealladwy er mwyn adrodd straeon i’r gynulleidfa. Bydd hefyd disgwyl i’r gohebydd wneud cyfraniadau byw o leoliadau. Mi fydd cynrychioli cymunedau amrywiol a darparu straeon sydd o ddiddordeb i bob rhan o’r gynulleidfa yn hanfodol – er mwyn sicrhau bod cynnwys BBC Cymru yn berthnasol i bob cwr o gymdeithas. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio’n hyblyg gan ymateb i straeon sy’n torri a gweithio ar straeon sydd wedi eu cynllunio.

PAM YMUNO Â’R TÎM:

Mae’r rôl gyffrous a heriol hon yn cynnwys cyflawni ein blaenoriaethau digidol a darparu cynnwys i’w ddarlledu ar draws ein gwasanaethau teledu a radio, yn ogystal â darlledu’n fyw yn Gymraeg a Saesneg. Fe gewch chi’r cyfle i gynhyrchu straeon a datblygu syniadau gwreiddiol, fyddai’n gweithio ar draws sawl llwyfan a gallu defnyddio amrywiaeth o offer er mwyn adrodd y stori yn y ffordd mwyaf priodol. Darperir hyfforddiant, lle bo angen. Bydd yr ymgeisydd llwyddianus yn aml yn cyd-weithio gyda gohebwyr eraill, yn gweithio yn agos gyda tîmau cynllunio, comisiynnu a’r golygyddion a chynhyrchwyr ddydd.

EICH PRIF GYFRIFOLDEBAU A’CH DYLANWAD:

Gohebu a dod o hyd i straeon gwreiddiol
Darparu straeon ar gyfer platfformau digidol yn gyntaf
Gallu gweithio’n annibynnol a heb oruchwyliaeth mewn awyrgylch brysur
Cydweithio gyda chynhyrchwyr i sicrhau cynnwys o’r safon uchaf
Sicrhau cydweithio effeithiol ar draws yr ystafell Newyddion gyda thimau Straeon, Newyddiaduraeth Weledol a Chynulleidfaoedd a thimau Arbenigol a Gwleidyddol yr ystafell newyddion

MEINI PRAWF HANFODOL:

Profiad o ohebu ar straeon gwreiddiol a dealltwriaeth fanwl o ofynion BBC Cymru
Y gallu i ddarganfod straeon gwreiddiol a’u cynhyrchu i safon uchel iawn gan arddangos crebwyll creadigol a gweledol
Dealltwriaeth o blatfformau cymdeithasol a sut i gynhyrchu ac addasu straeon gan arddangos dealltwriaeth o anghenion y gynulleidfa
Y gallu i ddarlledu’n fyw yn Gymraeg a Saesneg
Gwybodaeth drylwyr a sicr am bolisïau golygyddol ac ymwybyddiaeth o’r ystyriaethau cyfreithiol
Bydd angen i chi allu gweithio’n dda fel rhan o dim a chyfrannu at wneud yr adran newyddion yn lle gwych i weithio ynddi.

DYMUNOL OND DDIM YN OFYNNOL:

Gallu ffilmio a golygu i safon uchel
Gallu i seirnio straeon ddigidol ym meddalfwedd Optimo
Gwybodaeth dwys o gymunedau De-Ddwyrain Cymru

How to apply

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i’r ddolen isod