Cydlynydd Lle Cymunedau Cynaliadwy
Llangollen, Sir Ddinbych a Dyffryn Ceiriog, Wrecsam
Gweithredu hinsoddol tan arweiniad y gymuned • Gweithio hyblyg ar gael • Rhoddir hyfforddiant cyflawn
Mae Severn Wye yn chwilio am unigolyn dawnus i alluogi pobl a chymunedau gwledig i weithredu ynghylch newid yn yr hinsawdd, gan gyflawni ein rhaglen Cymunedau YnNi (a ariennir gan y Loteri Genedlaethol) yn Llangollen a Dyffryn Ceiriog. Byddwch yn ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol, yn hyrwyddo arddulliau cyd-gynllunio, ac yn helpu cymunedau i fagu’r galluoedd a’r hyder ar gyfer rheoli eu hynni hwy’u hunain yn y dyfodol.
| Teitl swydd | Cydlynydd Lle – Cymunedau YnNi. |
| Oriau gwaith | Llawn-amser – 37 awr yr wythnos. |
| Ystyrir oriau gweithio hyblyg neu gyfanswm cyfwerth â 0.8 (4 diwrnod). Mae’r swydd hon yn un â chyfleoedd trosglwyddiad. | |
| Cyflog | £31,977 – £34,360 y flwyddyn. |
| Yn atebol i | Rheolwr Cymunedau YnNi. |
| Lleoliad | Gartref, o fewn pellter cymudo i ardaloedd y prosiect yn Llangollen a Dyffryn Ceiriog. |
| Dyddiad cau | Awst yr 16eg 2026 |
Bydd y swydd yn cynnwys
- Cyflawni’r rhaglen YnNi, gan ymgysylltu ag amryw randdeiliaid lleol, gan gynnwys cynghorau, grwpiau cymunedol, ysgolion a Byrddau Iechyd.
- Hwyluso ymgysylltu cynhwysol â’r gymuned, a gweithgareddau mapio er mwyn clustnodi cyfleoedd lleol ar gyfer gweithredu ynglŷn â’r hinsawdd.
- Modelu arddulliau cyd-gynllunio a chyd-gyflawni, gan gynnwys grwpiau nas cynhwyswyd yn y gorffennol.
- Cynorthwyo mentrau hinsoddol tan arweiniad y gymuned trwy arwain gweithgareddau, canfod adnoddau a chynghori parhaus.
- Rhoi gwybod am gynnydd a gweithio mewn partneriaeth â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gan gynnwys gofynion y Gymraeg.
Rydym yn chwilio am rywun ag
- Addysg at raddfa gradd, neu brofiad cyfwerth, sy’n gyfathrebwr ac yn hwylusydd gwych;
- Â phrofiad o weithio mewn partneriaeth ag amryw randdeiliaid a chyfathrebu cynigion yn argyhoeddiadol ac yn greadigol;
- Â medrau cydlynu prosiect a’r gallu i reoli ei faich gwaith ei hun heb fawr ddim goruchwyliaeth;
- Yn medru teithio i gyfarfodydd ac achlysuron cymunedau gwledig, gan gynnwys ar rai nosweithiau a phenwythnosau.
Mae Asiantaeth Ynni Severn Wye yn elusen sy’n gweithio ledled Cymru a Lloegr, gan helpu pobl i oresgyn tlodi tanwydd a gweithredu ynghylch newid yn yr hinsawdd trwy osod ynni wrth graidd popeth a wnawn. severnwye.org.uk
Ymgeisiwch: trwy ein porth ymgeisio ar-lein yn severnwye.org.uk/jobs/apply gan gynnwys llythyr yn esbonio sut mae eich diddordeb a’ch profiad yn gytûn ag anghenion y Swydd-ddisgrifiad.
Cliciwch yma i lawrlwytho pecyn swydd.
Rydym wedi ymrwymo i amrywiaeth ac yn gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig, LGBTQ+ neu anabl sy’n cyrraedd meini prawf hanfodol y swydd.

