Swyddog Ardoll Ymwelwyr a Chofrestru Cenedlaethol (Hanesyddol Cyrhaeddol Cymraeg)
Mae hon yn swydd lawn amser. Fodd bynnag, croesewir trefniadau gweithio hyblyg a rhannu swydd a byddant yn cael eu hystyried.
Amdanom ni
Rydym yn gyfrifol am y Dreth Trafodiadau Tir, y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ac am gyflwyno Ardoll Ymwelwyr yng Nghymru. Mae ein gwaith yn casglu refeniw i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, fel y GIG ac ysgolion, mewn cymunedau ledled Cymru. Ond nid dyna’r oll, rydym hefyd yn rhan o’r gwaith o ddylunio a chefnogi trethi ar gyfer Cymru yn y dyfodol.
Ymunwch â lle sydd â phwrpas
Byddwch yn ymuno â thîm o dros 100 o bobl dalentog o 14 o wahanol broffesiynau. ffordd orau o ddisgrifio ein diwylliant yw arloesol, cydweithredol a charedig. Trwy weithio gyda’n gilydd, byddwn yn darparu system dreth deg i Gymru.
Ein pobl
Byddwch yn gweithio gyda phobl o ystod o wahanol gefndiroedd a phrofiad. O Weithrediadau, Polisi, Digidol a Data, Adnoddau Dynol a Chyfathrebu i Gyllid – mae lle i chi yn ein tîm cyfeillgar.
Chi fydd ein caffaeliad pennaf
Byddwch yn ymuno â sefydliad cynhwysol ac yn rhan o dîm lle gallwch ffynnu, a lle byddwch yn cael eich gwobrwyo a’ch clywed.
Rydym yn cael ein cydnabod fel un o’r sefydliadau gorau ar gyfer ymgysylltiad pobl yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil. Mae cynhwysiant a thegwch yn un o’n meysyddcryfaf, yn ogystal â thâl a buddion – mae ein canlyniadau Arolwg Pobl yn dweud y cyfan!
Rydym hefyd yn cael ein cydnabod am fod yn arloesol ac yn sefydliad digidol, ‘seiliedig yn y cwmwl’ sy’n cefnogi gweithio hybrid a hyblyg gan alluogi cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith.
Mwy o wybodaeth am weithio i ni, ein swyddi a’n Cynllun Corfforaethol 2025 – 2028.
Ynglŷn â’r swydd
(Mae hwn yn rôl lle mae’r Gymraeg yn hanfodol)
Fel Swyddog Gweithredol ym maes Cydymffurfiaeth Treth, bydd gennych rôl allweddol yn y gwaith o gyflawni cenhadaeth ACC trwy gefnogi gweinyddu gofynion Cofrestru Cenedlaethol a’r Ardoll Ymwelwyr yn effeithiol. Byddwch yn cefnogi’r arweinydd Ardoll Ymwelwyr a Chofrestru Cenedlaethol i sicrhau bod prosesau a chanllawiau’n barod ar gyfer ‘mynd yn fyw’. Byddwch yn helpu i sicrhau bod unigolion a busnesau’n deall eu rhwymedigaethau ac yn talu’r dreth gywir ar yr adeg iawn.
Mae’r rôl yn cyfuno gweithgarwch cydymffurfio, ymgysylltu â chwsmeriaid, a dadansoddi data. Byddwch yn rheoli achosion sy’n cynnwys adolygu cofrestriadau, asesu ffurflenni Ardoll Ymwelwyr, a nodi diffyg cydymffurfio posibl. Rhan greiddiol o’r rôl yw gweithio gyda threthdalwyr – yn enwedig darparwyr llety – i annog a chefnogi cydymffurfiaeth wirfoddol trwy ganllawiau clir ac ymyrraeth gynnar, tra’n cymryd camau cymesur pan fo problemau’n codi.
Mae gweithio o fewn ACC yn golygu mabwysiadu dull cydweithredol a dan arweiniad gwasanaethau o gydymffurfio, gan gydbwyso gorfodi ag addysgu. Byddwch yn cyfrannu at ddiogelu refeniw cyhoeddus yng Nghymru tra’n cynnal perthynas gadarnhaol â threthdalwyr, gan adlewyrchu ymrwymiad ACC i fod yn deg, yn hygyrch ac yn ymatebol.
Mae’r rôl hon yn addas iawn i unigolion sy’n mwynhau canolbwyntio ar fanylion, yn hyderus wrth gyfathrebu ag ystod eang o randdeiliaid, ac yn llawn cymhelliant o ran cyfrannu at gyflwyno Ardoll Ymwelwyr a Chofrestru Cenedlaethol.
“Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o faes gwaith newydd sbon wrth i ni sefydlu a chyflwyno cofrestr ac ardoll newydd. Rydyn ni’n chwilio am bobl sy’n chwilfrydig, yn llawn cymhelliant ac yn awyddus i ddysgu beth bynnag fo’ch cefndir, dewch â’ch sgiliau a’ch persbectif unigryw, a byddwn yn eich cefnogi i greu gyrfa werth chweil a llawn boddhad ym maes cydymffurfiaeth.”
Nina Engelhardt, Pennaeth Cyflawni Gweithredol
Prif Dasgau
Rheoli Achosion Cydymffurfiaeth
- Rheoli llwyth achosion sy’n ymwneud â chydymffurfiaeth â Chofrestru Cenedlaethol a’r Ardoll Ymwelwyr
- Adolygu cofrestriadau, ffurflenni a chofnodion cysylltiedig a gyflwynir gan unigolion a busnesau
- Nodi camgymeriadau, cyflwyniadau anghyflawn, neu risgiau o ddiffyg cydymffurfio
- Cymryd camau priodol, gan gynnwys gofyn am ragor o wybodaeth, cywiro cofnodion, neu symud ymlaen ag ymyriadau cydymffurfiaeth
Cefnogi Cofrestru Cenedlaethol
- Monitro a chynnal data cofrestru cywir ar gyfer trethdalwyr o fewn y cynlluniau perthnasol
- Nodi partïon sydd heb eu cofrestru a allai fod yn atebol am yr Ardoll Ymwelwyr
- Cefnogi cofrestrwyr newydd a sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion statudol
Gweithgaredd Cydymffurfio’r Ardoll Ymwelwyr
- Gwirio fod darparwyr llety yn codi ac yn rhoi cyfrif am yr Ardoll Ymwelwyr yn gywir
- Dilysu ffurflenni a gyflwynwyd yn erbyn tystiolaeth ategol (e.e., cofnodion meddiannaeth, data archebion)
- Nodi anghysondebau yn niferoedd ymwelwyr a adroddwyd neu gyfrifiadau’r ardoll
- Gweithio i leihau gwallau a gwella cyfraddau cydymffurfio cyffredinol
Ymgysylltu â Chwsmeriaid a Chanllawiau i Gwsmeriaid
- Cyfathrebu â threthdalwyr, darparwyr llety, ac asiantau dros y ffôn, e-bost, a gohebiaeth ysgrifenedig
- Darparu canllawiau clir, cefnogol ar rwymedigaethau treth yng Nghymru, yn enwedig o ran prosesau cofrestru ac ardoll
- Annog cydymffurfiaeth wirfoddol trwy addysg ac ymyrraeth gynnar
- Trin rhyngweithiadau sensitif neu heriol yn broffesiynol
Asesu ac Ymchwilio i Risg
- Defnyddio systemau mewnol a ffynonellau data i nodi risgiau cydymffurfio
- Dadansoddi patrymau fel tan-adrodd neu gofrestru hwyr
- Uwchgyfeirio achosion risg uwch neu gymhleth i gydweithwyr uwch
- Cefnogi ymyriadau cydymffurfio cymesur a seiliedig ar dystiolaeth
Gwneud Penderfyniadau
- Gwneud penderfyniadau gwybodus yn unol â deddfwriaeth dreth a chanllawiau ACC
- Cymhwyso rheolau’n gyson, gan sicrhau tegwch a thryloywder
- Cynnal llwybrau archwilio cywir ar gyfer yr holl gamau gweithredu cydymffurfiaeth
Sesiwn Wybodaeth i Ymgeiswyr
Os oes gennych ddiddordeb rôl hon, ymunwch â ni ar gyfer ein Sesiynau Gwybodaeth i Ymgeiswyr rhithwir. Byddwch yn cwrdd â’r Rheolwr Llinell, yn cael trosolwg o’r rôl yn ogystal â theimlad o sut beth yw gweithio yn ACC. Byddwn hefyd yn trafod ein buddion ac yn rhoi awgrymiadau defnyddiol ar gyfer eich cais gyda ni. Cofrestrwch ar gyfer un o’r sesiynau isod:
Cofrestrwch yma 24th Awst 12.30pm: https://VisitorLevyandNationalRegistrationOfficer.eventbrite.co.uk
Cofrestrwch yma:
https://VisitorLevyandNationalRegistrationOfficer4pm.eventbrite.co.uk
Rydyn ni’n argymell eich bod yn adolygu’r swydd ddisgrifiad (neu pecyn ymgeiswyr) o dan yr adran ‘atodiadau’ cyn cwblhau eich cais.
Ieithoedd
Rydym wedi cynnal asesiad gwrthrychol o’r sgiliau Cymraeg sydd eu hangen ar gyfer ymgymryd â dyletswyddau’r swydd hon. Ar gyfer y swydd hon:
Sgiliau Cymraeg – Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi ddangos eich sgiliau Cymraeg ar y lefelau a nodir isod. Bydd y sgiliau hyn yn cael eu hasesu yn ystod y broses recriwtio a byddwn yn esbonio’n glir sut y bydd y sgiliau hyn yn cael eu hasesu.
Lefelau sgiliau Cymraeg
Darllen Lefel 2 – Disgrifiad – Gallu darllen deunydd syml ar bynciau bob dydd
Siarad Lefel 4 – Disgrifiad – Gallu cynnal y rhan fwyaf o sgyrsiau sy’n gysylltiedig â gwaith
Deall Lefel 4 – Disgrifiad – Gallu deall y rhan fwyaf o sgyrsiau sy’n ymwneud â gwaith
Ysgrifennu Lefel 2 – Disgrifiad – Gallu ysgrifennu negeseuon syml sy’n gysylltiedig â gwaith
Buddion
Ochr yn ochr â’ch cyflog o £30,754, mae Awdurdod Cyllid Cymru yn cyfrannu £8,909 tuag at fod yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Buddion wedi’i Ddiffinio’r Gwasanaeth Sifil. Darganfyddwch pa fuddion y mae’r Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yn eu darparu (agor mewn ffenestr newydd).
Beth sydd gennym i’w gynnig
- 31 diwrnod o wyliau blynyddol + Gwyliau banc, a 2 Ddiwrnod braint
- Gweithio hyblyg a hybrid
- Cynlluniau pensiwn cyflogwr hael gyda chyfraniad o hyd at 28.97%
- Cynllun ceir Tusker
- Cycle2Work Vivup a chyflog ymlaen llaw ar gyfer prynu Tocynnau Teithio tymor
- Buddion Ffordd o Fyw sy’n cynnig gostyngiadau ar siopa, bwytai ac adloniant
- Awr lesiant bob wythnos
- Grwpiau chwaraeon â chymhorthdal
- Polisïau gwyliau addas i deuluoedd hael
- Cyrsiau Cymraeg am ddim ac amser o’r gwaith i ddysgu
- Ystod o rwydweithiau amrywiaeth staff
- Gwasanaeth cwnsela a chymorth am ddim trwy ein Rhaglen Cymorth i Gyflogeion a phlatfform iechyd Your Care Vivup
- Diwylliant ffyniannus sy’n cael ei ddisgrifio fel un arloesol, cydweithredol a charedig.

