Cynorthwywyr Dysgu – Caerdydd a’r Ardaloedd Cyfagos
Graddfa Gyflog – £90 – £101 y dydd
Caerdydd, dewch i gwrdd â Dosbarth. 💙
Dewis newydd i Gynorthwywyr Dysgu ar draws Caerdydd.
Mae Dosbarth yn asiantaeth annibynnol o Orllewin Cymru — a nawr, rydyn ni’n ehangu i Gaerdydd.
I ni, mae Cynorthwywyr Dysgu yn rhan allweddol o fywyd ysgol. Maen nhw’n gwneud gwahaniaeth go iawn i ddisgyblion, athrawon a’r ysgol gyfan.
Gyda 10 mlynedd mewn busnes a dros 60 mlynedd o brofiad ym myd addysg rhyngom fel tîm, rydyn ni’n deall pa mor bwysig yw cael y gefnogaeth iawn yn yr ystafell ddosbarth.
Pwy all ymuno â’n tîm?
Bydden ni wrth ein bodd yn clywed gan Gynorthwywyr Dysgu profiadol, yn ogystal â phobl sydd â diddordeb mewn dechrau gweithio mewn ysgolion.
Efallai bod gennych chi brofiad o weithio mewn ysgol yn barod, cefndir mewn gofal plant, addysg neu ADY, eich bod chi’n fyfyriwr neu’n raddedig sy’n awyddus i ennill profiad, neu eich bod chi’n ystyried newid gyrfa a gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
Does dim rhaid cael profiad blaenorol mewn ystafell ddosbarth ar gyfer pob rôl. Yr hyn sy’n bwysig i ni yw dod o hyd i bobl sydd â’r agwedd iawn, sy’n ddibynadwy ac sydd wir eisiau cefnogi disgyblion.
P’un ai ydych chi’n chwilio am waith llawn amser rheolaidd, ychydig ddyddiau’r wythnos neu waith achlysurol o gwmpas ymrwymiadau eraill, dywedwch wrthym beth sy’n gweithio i chi ac fe wnawn ni chwilio am waith sy’n addas i chi.
Beth allwch chi ei ddisgwyl gan Dosbarth?
- Cyflog drwy PAYE, heb unrhyw ffioedd cudd gan gwmni cyflogres
- Tîm sydd wedi’i sefydlu a’i reoli gan athrawon ac arbenigwyr ym myd addysg
- Y dewis i gyfathrebu a gweithio gyda ni drwy gyfrwng y Gymraeg
- Cefnogaeth ac arweiniad gan ein tîm 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn
- Mynediad at waith drwy asiantaeth sydd ar fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu gweithwyr asiantaeth
- Cyfleoedd i ennill profiad gwerthfawr a meithrin cysylltiadau gydag ysgolion
- Mynediad at gyrsiau DPP achrededig, dwyieithog, gan gynnwys hyfforddiant diogelu
- Cyfleoedd i weithio mewn lleoliadau prif ffrwd ac ADY
- Dewis o waith sy’n cyd-fynd â’ch argaeledd, o waith cyflenwi dyddiol i rolau tymor hirach
Beth rydyn ni’n chwilio amdano?
Rydyn ni’n chwilio am bobl sydd:
- Yn gyfeillgar, yn ddibynadwy ac yn frwdfrydig dros gefnogi plant a phobl ifanc
- Yn amyneddgar ac yn gallu meithrin perthynas gadarnhaol â disgyblion
- Yn hyblyg ac yn barod i gefnogi anghenion yr ystafell ddosbarth
- Yn gallu gweithio’n dda gydag athrawon ac aelodau eraill o staff yr ysgol
- Â sgiliau cyfathrebu da ac agwedd broffesiynol
- Yn barod i gwblhau’r gwiriadau diogelu a chydymffurfio perthnasol
- Yn gallu darparu’r geirdaon proffesiynol angenrheidiol
- Â DBS cyfredol sydd wedi’i gofrestru gyda’r Gwasanaeth Diweddaru, neu’n barod i gwblhau gwiriad DBS newydd
Mae profiad o weithio gyda phlant, pobl ifanc neu unigolion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn fantais, ond rydyn ni hefyd yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd am gymryd eu camau cyntaf i mewn i fyd addysg.
Mae Dosbarth wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Mae pob aelod o staff yn cwblhau’r gwiriadau diogelu a chydymffurfio perthnasol, ac rydyn ni’n darparu hyfforddiant diogelu fel rhan o’n proses recriwtio.
Barod am newid, yn meddwl am weithio ym myd addysg, neu jyst eisiau gwybod ychydig mwy am beth all Dosbarth ei gynnig? Cysylltwch â Gwion: GwionPhillips@dosbarth.cymru neu Marli: marliwilson@dosbarth.cymru heddiw am sgwrs anffurfiol am ymuno â thîm Dosbarth Caerdydd. 💙

