Cydlynydd Lle Cymunedau Cynaliadwy

Teitl Swydd
Cydlynydd Lle Cymunedau Cynaliadwy
Enw’r Cwmni
Severn Wye
Lleoliad
Gartref, o fewn pellter cymudo i ardaloedd y prosiect yn Llangollen a Dyffryn Ceiriog
Cyflog
£31,977 – £34,360 y flwyddyn
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 16/08/2026

Llangollen, Sir Ddinbych a Dyffryn Ceiriog, Wrecsam

Gweithredu hinsoddol tan arweiniad y gymuned  •  Gweithio hyblyg ar gael  •  Rhoddir hyfforddiant cyflawn

Mae Severn Wye yn chwilio am unigolyn dawnus i alluogi pobl a chymunedau gwledig i weithredu ynghylch newid yn yr hinsawdd, gan gyflawni ein rhaglen Cymunedau YnNi (a ariennir gan y Loteri Genedlaethol) yn Llangollen a Dyffryn Ceiriog. Byddwch yn ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol, yn hyrwyddo arddulliau cyd-gynllunio, ac yn helpu cymunedau i fagu’r galluoedd a’r hyder ar gyfer rheoli eu hynni hwy’u hunain yn y dyfodol.

Teitl swyddCydlynydd Lle – Cymunedau YnNi.
Oriau gwaithLlawn-amser – 37 awr yr wythnos. 
 Ystyrir oriau gweithio hyblyg neu gyfanswm cyfwerth â 0.8 (4 diwrnod). Mae’r swydd hon yn un â chyfleoedd trosglwyddiad.  
Cyflog£31,977 – £34,360 y flwyddyn. 
Yn atebol iRheolwr Cymunedau YnNi. 
LleoliadGartref, o fewn pellter cymudo i ardaloedd y prosiect yn Llangollen a Dyffryn Ceiriog.
Dyddiad cauAwst yr 16eg 2026

Bydd y swydd yn cynnwys

  • Cyflawni’r rhaglen YnNi, gan ymgysylltu ag amryw randdeiliaid lleol, gan gynnwys cynghorau, grwpiau cymunedol, ysgolion a Byrddau Iechyd.
  • Hwyluso ymgysylltu cynhwysol â’r gymuned, a gweithgareddau mapio er mwyn clustnodi cyfleoedd lleol ar gyfer gweithredu ynglŷn â’r hinsawdd.
  • Modelu arddulliau cyd-gynllunio a chyd-gyflawni, gan gynnwys grwpiau nas cynhwyswyd yn y gorffennol.
  • Cynorthwyo mentrau hinsoddol tan arweiniad y gymuned trwy arwain gweithgareddau, canfod adnoddau a chynghori parhaus.
  • Rhoi gwybod am gynnydd a gweithio mewn partneriaeth â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gan gynnwys gofynion y Gymraeg.

Rydym yn chwilio am rywun ag

  • Addysg at raddfa gradd, neu brofiad cyfwerth, sy’n gyfathrebwr ac yn hwylusydd gwych;
  • Â phrofiad o weithio mewn partneriaeth ag amryw randdeiliaid a chyfathrebu cynigion yn argyhoeddiadol ac yn greadigol;
  • Â medrau cydlynu prosiect a’r gallu i reoli ei faich gwaith ei hun heb fawr ddim goruchwyliaeth; 
  • Yn medru teithio i gyfarfodydd ac achlysuron cymunedau gwledig, gan gynnwys ar rai nosweithiau a phenwythnosau.

Mae Asiantaeth Ynni Severn Wye yn elusen sy’n gweithio ledled Cymru a Lloegr, gan helpu pobl i oresgyn tlodi tanwydd a gweithredu ynghylch newid yn yr hinsawdd trwy osod ynni wrth graidd popeth a wnawn. severnwye.org.uk

Ymgeisiwch: trwy ein porth ymgeisio ar-lein yn severnwye.org.uk/jobs/apply gan gynnwys llythyr yn esbonio sut mae eich diddordeb a’ch profiad yn gytûn ag anghenion y Swydd-ddisgrifiad.

Cliciwch yma i lawrlwytho pecyn swydd.

Rydym wedi ymrwymo i amrywiaeth ac yn gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig, LGBTQ+ neu anabl sy’n cyrraedd meini prawf hanfodol y swydd.

Sut i wneud cais

Ymgeisiwch trwy ein porth ymgeisio ar-lein trwy’r ddolen Gwneud Cais isod, gan gynnwys llythyr yn esbonio sut mae eich diddordeb a’ch profiad yn gytûn ag anghenion y Swydd-ddisgrifiad.