Dylunydd Cynnwys (y Gymraeg yn hanfodol)

Teitl Swydd
Dylunydd Cynnwys (y Gymraeg yn hanfodol)
Enw’r Cwmni
Awdurdod Cyllid Cymru
Lleoliad
Hybrid / Merthyr / Caerdydd
Cyflog
£37,111 i £45,378
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 03/11/2026

Ystod cyflog: £37,111 i £45,378

Dyddiad ac amser cau: 03 Tachwedd 2026 am 11:55pm

“Rydym yn chwilio am rywun a all gynnig cynnwys rhagorol, sgiliau Cymraeg, ynghyd â ffyrdd newydd o feddwl, i’n tîm. Byddwn yn croesawu ceisiadau gan bobl o ystod amrywiol o gefndiroedd, ac mae’r swydd yn cynnig cyfle gwirioneddol i siapio ein gwaith yn ogystal â datblygu eich gyrfa eich hun”.

Patrwm gwaith: Mae hon yn swydd lawn amser. Fodd bynnag, croesewir trefniadau gweithio hyblyg a rhannu swydd a byddant yn cael eu hystyried.

Math o gontract: Parhaol

Lleoliad : Rydym yn annog gweithio hyblyg a hybrid. Bydd angen mynychu’r swyddfa rhywfaint ar sail anghenion busnes. Mae’r swydd hon wedi’i lleoli yn ein swyddfa ym Merthyr neu yng Nghaerdydd.

Amdanom ni
Rydym yn gyfrifol am y Dreth Trafodiadau Tir, y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ac am gyflwyno Ardoll Ymwelwyr yng Nghymru. Mae ein gwaith yn casglu refeniw i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, fel y GIG ac ysgolion, mewn cymunedau ledled Cymru. Ond nid dyna’r oll, rydym hefyd yn rhan o’r gwaith o ddylunio a chefnogi trethi ar gyfer Cymru yn y dyfodol.

Ymunwch â lle sydd â phwrpas
Byddwch yn ymuno â thîm o dros 100 o bobl dalentog o 14 o wahanol broffesiynau. Y ffordd orau o ddisgrifio ein diwylliant yw arloesol, cydweithredol a charedig. Trwy weithio gyda’n gilydd, byddwn yn darparu system dreth deg i Gymru.

Ein pobl
Byddwch yn gweithio gyda phobl o ystod o wahanol gefndiroedd a phrofiad. O Weithrediadau, Polisi, Digidol a Data, Adnoddau Dynol a Chyfathrebu i Gyllid – mae lle i chi yn ein tîm cyfeillgar.

Chi fydd ein caffaeliad pennaf
Byddwch yn ymuno â sefydliad cynhwysol ac yn rhan o dîm lle gallwch ffynnu, a lle byddwch yn cael eich gwobrwyo a’ch clywed.

Rydym yn cael ein cydnabod fel un o’r sefydliadau gorau ar gyfer ymgysylltiad pobl
yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil. Mae cynhwysiant a thegwch yn un o’n meysydd cryfaf, yn ogystal â thâl a buddion – mae ein canlyniadau Arolwg Pobl yn dweud y cyfan!

Rydym hefyd yn cael ein cydnabod am fod yn arloesol ac yn sefydliad digidol, ‘seiliedig yn y cwmwl’ sy’n cefnogi gweithio hybrid a hyblyg gan alluogi cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith.

Mwy o wybodaeth am weithio i ni, ein swyddi a’n Cynllun Corfforaethol 2025-2028.

Ynglŷn â’r swydd

Mae’r swydd yn rhan o’r tîm Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr (UCD), tîm aml-sgil sy’n cynnwys dylunwyr cynnwys, ymchwilwyr defnyddwyr, dylunydd rhyngweithio, a dylunydd gwasanaethau sy’n gweithio ar draws ACC. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â’r holl broffesiynau eraill sy’n ymwneud â Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr, ac yn cydweithio’n agos â’n Dylunydd Cynnwys arall.

Dyma gyfnod cyffrous i ymuno ag ACC, gan ein bod yn dylunio gwasanaethau ‘o’r dechrau i’r diwedd’ ar gyfer cofrestru darparwyr llety ymwelwyr a ffeilio a thalu’r Tudalen 3 o 9 Ardoll Ymwelwyr yng Nghymru. Byddwch yn chwarae rhan bwysig yn cefnogi timau gwasanaeth o ran datblygu a dylunio’r gwasanaethau hyn.

Mae dwy elfen graidd i’r swydd:

  1. Creu a rheoli cynnwys corfforaethol sy’n cynnwys:
  • defnyddio system rheoli cynnwys Drupal i gyhoeddi dogfennau corfforaethol,
    e.e. adroddiadau blynyddol, cynlluniau corfforaethol, ac adroddiadau
    cydraddoldeb
  • cefnogi holl wasanaethau ACC gyda’r gwaith o gynllunio, creu a chyhoeddi
    canllawiau dwyieithog
  • gweithio gydag awduron cynnwys (e.e. polisi) i ddylunio cynnwys yn y
    Gymraeg a’r Saesneg i’r un safon uchel yn y ddwy iaith
  • sicrhau bod holl gynnwys dwyieithog ACC yn dilyn canllaw arddull |
    LLYW.CYMRU ac yn bodloni gofynion Cymraeg Clir a Plain English
  • sicrhau cywirdeb wrth gyhoeddi’r holl gynnwys digidol – yn Gymraeg a
    Saesneg – ar LLYW.CYMRU i sicrhau cydraddoldeb ym mhrofiadau
    defnyddwyr y ddwy iaith
  1. Tîm y Gwasanaeth Cofrestriad Cenedlaethol, sy’n cynnwys:
  • gwerthuso adborth gan ddefnyddwyr yn y Gymraeg a’r Saesneg a dylunio
    newidiadau i gynnwys y gwasanaeth yn y ddwy iaith
  • gweithio gyda dylunwyr rhyngweithiadau i greu neu wella llif gwasanaeth
  • dylunio tudalennau canllawiau gwasanaeth o safon uchel yn y Gymraeg a’r
    Saesneg

Cydweithio â’n Rheolwr y Gymraeg a’n cyflenwr cyfieithu allanol i ddatblygu cynnwys Cymraeg ar yr un pryd â’r Saesneg, gan sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried o’r cychwyn cyntaf.

Drwy fynd ati i wella cynnwys digidol gwefan ACC byddwch yn defnyddio eich sgiliau dylunio i ddrafftio a golygu cynnwys er mwyn helpu defnyddwyr i gyflawni eu nod.

Bydd gennych sgiliau a phrofiad o:

  • esbonio penderfyniadau ynglŷn â chynnwys
  • cydweithio
  • gweithio’n annibynnol
  • nodi materion ac anghenion defnyddwyr yn annibynnol
  • prosesau gweinyddu a chyhoeddi cynnwys
  • golygu ac ysgrifennu cynnwys yn unol â safonau arfer da
  • y gallu i ddylunio cynnwys yn effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg

Cliciwch yma am swydd ddisgrifiad llawn.

Sut i wneud cais

Cliciwch ar y botwm “Gwneud Cais” isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.