Hyfforddwyr Cyrsiau NDORS ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys

Teitl Swydd
Hyfforddwyr Cyrsiau NDORS ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys
Enw’r Cwmni
Heddlu Dyfed-Powys
Lleoliad
Amrywiol
Cyflog
£80.25 – £139.10 y sesiwn (gweler isod)
Llawn/Rhan-amser
Rhan amser
Dyddiad Cau
Cyn gynted â phosib

Ydych chi’n frwd dros ddiogelwch defnyddwyr y ffyrd d, ac eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eich cymuned? Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyffrous i geisio hyfforddwyr cymwys a medrus i gyflwyno’r cwrs Cynllun Cenedlaethol Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru (NDORS) ar draws ardal ddaearyddol yr heddlu. Menter genedlaethol yw NDORS a weinyddir gan UK ROEd. Fe’i cynigir i unigolion sydd wedi cyflawni mân droseddau moduro fel dewis addysgol amgen yn lle hysbysiad cosb benodedig neu weithdrefnau llys. Nod y cynllun yw gwella agweddau gyrru, annog newidiadau ymddygiadol a gwella diogelwch y ffyrdd. 

Fel darparwr cwrs NDORS trwyddedig, mae HDP yn cyflwyno’r gyfres lawn o gyrsiau NDORS, gan gynnwys:

  • Cwrs Ymwybyddiaeth Cyflymder Cenedlaethol
  • Cwrs Ymwybyddiaeth Traffyrdd Cenedlaethol
  • Beth sy’n Ein Gyrru Ni?
  • Gyrru Diogel ac Ystyriol
  • Cwrs Cenedlaethol Ymwybyddiaeth o Risg Beiciwr

Fel hwyluswr cwrs, bydd cyfle gyda chi i fod o fudd uniongyrchol i ddiogelwch holl ddefnyddwyr y ffyrdd drwy helpu troseddwyr i ddeall pwysigrwydd gyrru mwy diogel a’u hannog i wneud newidiadau sy’n para. Ar gyfer y rôl hon, mae angen sgiliau cyfathrebu ardderchog, ymagwedd broffesiynol, a’r gallu i ymgysylltu â chyfranogwyr a’u hannog i gymryd cyfrifoldeb dros eu gyrru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch y cynllun NDORS, galwch heibio i www.ukroed.org.uk.

Cwmpas y cytundeb

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn gwahodd ceisiadau ar gyfer cyflenwi’r cyrsiau NDORS ar ran Heddlu Dyfed-Powys (HDP). Dim ond y rhai sydd yn bodloni’r meini prawf a nodir gan UK ROEd ac sy’n medru cynrychioli HDP yn broffesiynol i’r cyhoedd fydd yn cael eu hystyried ar gyfer y cytundeb hwn.

Bydd Cynllun Ailhyfforddi Gyrwyr HDP yn cydlynu ac yn rheoli’r cyrsiau NDORS, gan gynnwys pennu cyrsiau i hyfforddwyr a derbyn cleientiaid ar gyrsiau. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio’n agos â’r Cynllun Ailhyfforddi Gyrwyr, a fydd yn pennu cyrsiau yn seiliedig ar argaeledd hyfforddwyr.

Cyrsiau

Mae angen bod hyfforddwyr yn medru cyflwyno cyrsiau yn Gymraeg neu Saesneg, neu’r ddwy iaith.

Cyflwynir cyrsiau mewn tri fformat, a chaiff ymgeiswyr wneud cais ar gyfer un neu fwy o’r dulliau cyflenwi canlynol:

  • Cyrsiau Dosbarth: Fe’u cyflwynir mewn amrediad o leoliadau cyhoeddus ledled ardal Dyfed-Powys, gan gynnwys:
    • Parc y Scarlets, Llanelli
    • Gwesty Llwyn Iorwg, Caerfyrddin
    • Grŵp Colegau NPTC Coleg y Drenewydd, y Drenewydd
    • Canolfan Gymunedol Bloomfield, Arberth
  • Cyrsiau Digidol: Fe’u cyflwynir drwy Microsoft Teams, a bydd angen gliniadur â chyflymder band llydan digonol ar gyfer cyflenwi llyfn. Bydd HDP yn cynnal asesiad TG cyn cychwyn, a chyfrifoldeb y contractwr fydd mynd i’r afael ag unrhyw ddiffygion o ran band llydan a thalu hyn eu hunain. 
  • Hyfforddiant Mewn Car (Hyfforddwyr Gyrru): Bydd angen i hwyluswyr ddarparu eu cerbyd rheoledig deuol awtomatig neu â chydiwr eu hun ar gyfer hyfforddiant mewn car.

Anogwn hyfforddwyr i wneud cais ar gyfer sawl cwrs, er nad yw hyn yn orfodol.

Cyflwynir cyrsiau drwy gydol yr wythnos waith, gan gynnwys gyda’r hwyr ac ar Sadyrnau, gan gynnig hyblygrwydd ar gyfer y rhai sy’n ceisio cydbwyso gwaith gydag ymrwymiadau eraill.

Cymwysterau a Sgiliau

Er mwyn gwneud cais ar gyfer rôl hyfforddwr neu hyfforddwr gyrru, mae’n rhaid ichi fodloni’r sgiliau a chymwysterau penodol sy’n ofynnol gan UK ROEd ar gyfer cyflwyno cyrsiau NDORS. Dylai ymgeiswyr fedru dangos eu bod yn bodloni’r meini prawf a amlinellir yn y manylebau person ar gyfer pob rôl. Hefyd, bydd angen i hyfforddwyr a hyfforddwyr gyrru gwblhau hyfforddiant ac asesiadau’n llwyddiannus ar gyfer cyflwyno cyrsiau NDORS.

Gofynion Allweddol:

Tystysgrif Uwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd:

Rhaid bod gan y contractwr dystysgrif Uwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac wedi’i gofrestru gyda’r Gwasanaeth Diweddaru lle bydd gwiriadau blynyddol yn cael eu cynnal. Bydd methu’r gwiriadau’n arwain at geisiadau’n cael eu dileu o’r Cynllun.

Fel rhan o’r dogfennau cytundeb, efallai bydd angen ichi ymrwymo i gytundebau Cyfrinachedd a/neu Brosesu/Datgelu Data yn ôl yr angen.

Yswiriant:

Rhaid bod gan bob hyfforddwr llwyddiannus yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus mewn grym hyd at werth £5,000,000 ac Atebolrwydd Proffesiynol hyd at werth £1,000,000. Rhaid i hyfforddwyr mewn car hefyd sicrhau bod yswiriant, treth ac MOT (lle bo’n berthnasol) ganddynt ar gyfer eu cerbyd, mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth traffig ffyrdd.

Hyfforddiant:

Ar ôl cael eu penodi, darperir hyfforddiant cynefino gan Heddlu Dyfed-Powys, gan gynnwys hyfforddiant ar y systemau a ddefnyddir i reoli’r cynllun. Disgwylir i hyfforddwyr lwyddo mewn asesiadau ysgrifenedig a chael eu hasesu wrth iddynt gyflwyno cwrs yn fyw gan fonitor UK ROEd. Disgwylir hyfforddiant parhaus, gan gynnwys presenoldeb mewn digwyddiadau Datblygiad Proffesiynol Parhaus, drwy gydol y cytundeb. Noder fod yr holl hyfforddiant yn cael ei gwblhau yn ystod amser y contractwr ei hun, ac ni fyddant yn cael eu talu am hyn.

Sicrhau Ansawdd:

Bydd hyfforddwyr yn destun asesiadau a gwiriadau sicrhau ansawdd rheolaidd er mwyn gwneud yn siŵr bod safonau UK ROEd a Heddlu Dyfed-Powys yn cael eu bodloni. Mae hyn yn cynnwys asesiadau bob chwe mis gan UK ROEd a monitro mewnol gan HDP. Gall methu â bodloni safonau arwain at hyfforddiant ychwanegol neu gael eich dileu o’r rhestr hyfforddwyr cymeradwy.

Tâl a Ffioedd Cwrs

Telir hyfforddwyr yn unol â’r cyfraddau canlynol:

  • Cyrsiau Digidol: £80.25 y sesiwn
  • Cyrsiau Dosbarth: £100 y sesiwn
  • Hyfforddiant Mewn Car (Hyfforddwyr Gyrru): £139.10 y sesiwn

Bydd taliadau’n cael eu prosesu yn unol â rheoliadau IR35, sy’n golygu y bydd cyfraniadau Treth ac Yswiriant Gwladol yn cael eu tynnu o’ch anfoneb ar gyfraddau perthnasol y Llywodraeth. O ganlyniad, ni fyddwch yn cael eich ystyried yn weithiwr cyflogedig ac ni fydd hawl gennych i fuddion gweithiwr cyflogedig. 

Gwneir taliadau drwy BACS.

Bydd Hyfforddwyr Gyrru wedi’u heithrio o reolau IR35, ac ni wneir didyniadau o’u hanfonebau.

Gwybodaeth am bris ar gael yma

Sut i Wneud Cais

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am swydd fel hyfforddwr gyrru neu hwylusydd cwrs NDORS gyda Heddlu Dyfed-Powys:

I wneud cais am y cyfle hwn, gellir anfon ceisiadau’n uniongyrchol at : CJITNDORSApplications@dyfed-powys.police.uk

Lawrlwythwch ddogfennau ymgeisio yma.

Sut i wneud cais

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am swydd fel hyfforddwr gyrru neu hwylusydd cwrs NDORS gyda Heddlu Dyfed-Powys:

I wneud cais am y cyfle hwn, gellir anfon ceisiadau’n uniongyrchol at : CJITNDORSApplications@dyfed-powys.police.uk

Lawrlwythwch ddogfennau ymgeisio yma.