Swyddog Cydraddoldeb a’r Gymraeg

Teitl Swydd
Swyddog Cydraddoldeb a’r Gymraeg
Enw’r Cwmni
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Lleoliad
Caerffili
Cyflog
Gradd 9 – £39,152 – £41,771
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 03/09/2026

Sail: Llawn Amser, Cyfnod Penodol am 12 Mis
Oriau: 37 awr yr wythnos

Disgrifiad y Swydd

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn chwilio am Swyddog Cydraddoldeb a’r Gymraeg angerddol ac uchelgeisiol i ymuno â’n Tîm Cydraddoldeb a’r Gymraeg a helpu llunio dyfodol mwy cynhwysol a theg i’n cymunedau.
      
Mae hon yn rôl gorfforaethol allweddol sy’n cynorthwyo’r Cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau statudol ac ymrwymiadau i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a’r Gymraeg.
      
Byddwch chi’n chwarae rôl flaenllaw wrth hybu ymateb y Cyngor i Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, gan weithio ar draws gwasanaethau i ymgorffori arferion cynhwysol, dylanwadu ar wneud penderfyniadau, a chyflawni newid gwirioneddol, mesuradwy.
       
Mae’r rôl yn cynnig cyfle unigryw i weithio ar lefel strategol wrth hefyd gyflawni mentrau ymarferol sy’n gwella canlyniadau i drigolion a staff.
      
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Byddwch chi wrth wraidd llunio ein hagwedd at gydraddoldeb a chynhwysiant, gan helpu creu newid diwylliannol parhaol ar draws y sefydliad a thu hwnt.
       
Os ydych chi wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth ac os oes gennych chi’r sgiliau i hybu newid ystyrlon, bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
       
Ar gyfer y rôl, rydyn ni’n gofyn bod gennych chi’r canlynol:

  • Cymhwyster Lefel 6 (Gradd) perthnasol ar Fframwaith Cymwysterau a Chredydau Cymru.
  • Y gallu i siarad Cymraeg yn rhugl.
  • Gwybodaeth am ddeddfwriaeth yn ymwneud â chydraddoldeb a’r Gymraeg, gyda’r gallu i gymhwyso’r wybodaeth hon yn effeithiol i lywio strategaeth sefydliadol a darparu gwasanaethau.
  • Y gallu a’r ymroddiad i fynd i gyfarfodydd, seminarau tu allan i oriau gwaith arferol.
  • Profiad o gyfrannu at raglenni strategol neu gynlluniau gweithredu.

      
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
             
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau trwy’r botwm Gwneud Cais neu cliciwch yma.
          
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Anwen Cullinane ar 01443 864404 / Geraint Ashton ar 01443 864353 neu ebost cydraddoldeb@caerffili.gov.uk
           
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg.  Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
          
Mae’n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o’ch hawl i weithio yn y DU.  Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
         
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â recriwtio@caerffili.gov.uk am ragor o wybodaeth.
           
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn derbyn ceisiadau wedi’u cyflwyno drwy wefan StudySmarter. Rhaid cyflwyno pob cais drwy wefan swyddogol y Cyngor.
        
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn hanfodol i ymgymryd â’r swydd hon. Felly, mae’r swydd yn cael ei hysbysebu yn unol â darpariaethau Adran 38 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976.

Cyfeirnod Swydd
REQ0011076

Sut i wneud cais

I ymgeisio ac am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen Gwneud Cais isod.